AMDANOM NI
Mae Cwmni Elgar yn cynnig gwasanaethau pwrpasol â ffocws ar gydraddoldeb, prif ffrydio’r iaith Gymraeg a newid diwylliant corfforaethol. Mae gan y Cyfarwyddwr, Llio Elgar, record o dros ugain mlynedd o ddatblygu strategaethau corfforaethol, ymgysylltu â phobl, newid agweddau ac ymddygiad tra’n sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol.
​
​Tra'n gweithio i lywodraeth leol bu Llio yn arwain ar yr iaith Gymraeg. yr agenda cydraddoldeb, a datblygiad sefydliadol, yn cadeirio Fforwm Casnewydd yn erbyn Troseddau Casineb ac arwain amryw bartneriaethau ar gyflogaeth a hybu addysg Gymraeg. Mae ganddi’r gallu i ddod â phobl ynghyd i ddychmygu a chyflawni newid.
​
​Mae cleientiaid Cwmni Elgar yn cynnwys Menter Caerdydd, Mudiad Meithrin, CGGC (WCVA), ac Insight HRC. Mae Llio'n Aelod Cyswllt Tai Pawb.
​
Mae Llio’n gwirfoddoli fel Llywodraethwr Ysgol Gymraeg Casnewydd ar ran Awdurdod Lleol ac ar fwrdd Glas Cymru, cwmni rheoli Dŵr Cymru. Mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddiath Gyhoeddus (MPA )a gradd Meistr yn y Gymraeg. Mae gan Llio ddiddordeb byw yn yr amgylchedd a gweithgareddau awyr agored, mae hi’n rhiant i ddau o blant ac yn frwd dros ymestyn apêl addysg Gymraeg.
Mae Llio'n hyblyg ac yn gymwynasgar, ac yn mwynhau cefnogi sefydliadau i weithio ar eu gorau.
​
Mai 2022
Llio Elgar, Cyfarwyddwr
